Ardystio yng Nghymru
Gwybodaeth i unigolion
Ardystir cymwysterau hyfforddi athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru a ddilysir gan SAU yng Nghymru gan Standards Verification UK (SVUK).
Atgoffir unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn cwrs hyfforddi athrawon bod y cymwysterau ardystiedig a gynigir yng Nghymru yn wahanol i'r rhai a gynigir yn Lloegr.
Mae'r cymwysterau ardystiedig a ddilysir gan sefydliadau yng Nghymru wedi eu mapio i safonau FENTO (ac eithrio'r Craidd Lleiaf) yn unol â rheoliad S.I. 2001 rhif 1209. Nid ydynt wedi eu rheoli gan Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Lloegr) 2007 a gyflwynwyd yn Lloegr ar gyfer agenda 'Equipping our Teachers'. Galwch linell gymorth Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor LLUK am wybodaeth ar ba sefydliad i'w ddewis.
Mae gwybodaeth bellach am cymwysterau hyfforddi cychwynnol athrawon yng Nghymru ar gael hefyd.
Gwybodaeth ar gyfer Sefydliadau Dyfarnu
Mae'r dogfennau canlynol ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) yng Nghymru sy'n darparu cymwysterau i'r rhai a fydd yn dysgu yn y sector addysg ac hyfforddiant ôl-16 oed yng Nghymru. Cliciwch ar y ddolen i lawrlwytho'r ddogfen.
Ffurflen Gais Ardystiad (dogfen Word 292KB)
Arweiniad Rhan A (dogfen Word 91KB)
Arweiniad Rhan B (dogfen Word 225KB)
Cysylltwch â SVUK i holi ynghylch ardystio yng Nghymru.

